Pethau i'w Cofio Wrth Riportio i'r Cyfryngau Cymdeithasol
I ddechrau o leiaf, nid person fydd yn edrych ar eich adroddiad ond cyfrifiadur, a dyma pam y mae’n bwysig iawn eich bod yn dewis yr adroddiad iawn. Er enghraifft, pe bai rhywun yn ffugio bod yn chi ar Facebook a’ch bod chithau’n riportio’r cyfrif am fod yn gamdriniol/bygythiol, bydd y cyfrifiadur yn dechrau chwilio am iaith gamdriniol/fygythiol ar y dudalen. Mae’n ddigon posibl y gallai rhywun wneud i chi deimlo eich bod yn cael eich cam-drin/bygwth drwy greu cyfrif tebyg i chi, ond heb bostio unrhyw beth sy’n wrthrychol gamdriniol neu fygythiol. Felly, pan fydd y cyfrifiadur yn methu â dod o hyd i’r hyn rydych wedi dweud wrtho am chwilio amdano, bydd yn dweud nad yw’r cyfrif yn torri’r rheolau.
Ar y llaw arall, os bydd y cyfrif yn cael ei riportio fel cyfrif sy’n ffugio bod yn rhywun arall, o’r cyfrif y mae’n ei ffugio, rydych yn gofyn i’r cyfrifiadur chwilio am rywbeth hollol wahanol. Bydd y cyfrifiadur yn sganio’r ddau broffil ac yn gweld: ydyn, mae’r ddwy dudalen hyn yn defnyddio’r un delweddau / delweddau tebyg, mae’r cyfrif hwn wedi bod yn weithredol am 5 mlynedd a’r cyfrif arall am 5 diwrnod, mae’n ymddangos bod y cyfrif hwn wedi bod yn postio’n weddol anaml ers 5 mlynedd, tra mae’r cyfrif arall wedi postio 5 statws yn yr awr ddiwethaf. Drwy ddewis yr adroddiad cywir bydd y cyfrifiadur yn gwybod beth i chwilio amdano, a gall felly weithio’n llawer mwy effeithiol, gan ei gwneud hi’n llawer mwy tebygol y bydd algorithm ffugio bod yn rhywun arall Facebook yn cytuno â chi ac yn tynnu’r cyfrif ffug i lawr.