help a chefnogaeth. Nid yw bwlio’n cael ei oddef ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a gellir ei riportio yn uniongyrchol i’r platfformau hyn. Efallai y bydd y cyngor ar y ddolen hon yn ddefnyddiol i chi hefyd os ydych yn cael eich cyhuddo o fwlio.
Nid oes deddfwriaeth benodol yn ymwneud â seiberfwlio yn y DU. Er hyn, gallai rhai mathau o seiberfwlio gael eu hystyried yn aflonyddu neu'n iaith casineb. Mae’r rhain yn droseddau ac maen nhw’n anghyfreithlon. Dylech riportio aflonyddu neu iaith casineb i’r heddlu ar 101.
Darganfyddwch isod sut i riportio bwlio i’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: