The Helpline will be closed over the bank holiday weekend from 4 pm on Thursday, 28th March and we will reopen on Tuesday 2nd April 2024. Our chatbot, Reiya, will be available on our website to support navigation of the website in the meantime. All case enquiries will be responded to on reopening
Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Mae fy Nghyfrif wedi cael ei Hacio

  1. Cyngor
  2. Mae fy Nghyfrif wedi cael ei Hacio

Os yw eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft eich cyfrif Facebook, Snapchat neu Instagram, neu eich ebost wedi cael ei hacio, peidiwch â chynhyrfu. Mae camau y gallwch eu cymryd.

Gallai eich cyfrif fod wedi cael ei hacio gan rywun rydych yn ei adnabod, neu gan rywun nad ydych yn ei adnabod, drwy faleiswedd (meddalwedd wedi’i chynllunio’n benodol er mwyn amharu, achosi difrod neu gael mynediad heb ganiatâd i gyfrifiadur rhywun).

Gall cyfrif wedi’i hacio achosi llawer iawn o ofid, ond gan ddibynnu ble mae hyn wedi digwydd (pa gyfrif neu blatfform) mae camau y gallwch eu cymryd er mwyn cael rheolaeth yn ôl.

Weithiau bydd pobl yn dweud wrthym, “mae rhywun yn cymryd arno ei fod yn fi ar-lein”. Weithiau mae gweithred fel hon yn cael ei chyflawni pan fydd ar berson eisiau defnyddio hunaniaeth rhywun arall ar-lein. Gallai hyn fod er mwyn achosi gofid i rywun, neu mewn ymdrech i gael arian gan rywun (twyllo). Cyfeirir at hyn fel ffugio bod yn rhywun arall, neu ffugio bod yn rhywun arall ar-lein.

Gall cyfrif ffug hefyd gael ei greu fel ffordd o ffugio bod yn rhywun arall neu dargedu person. Efallai y bydd rhywun sydd eisiau gwneud proffil ffug da yn gwneud hynny er mwyn achosi gofid, defnyddio manylion adnabod gwahanol (cynnig abwyd) neu fel parodi. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug fel arfer yn torri telerau ac amodau platfform a gellir eu riportio.

Os oes unrhyw beth tebyg i hyn wedi digwydd i chi, efallai y byddwch yn gofyn i chi eich hun ydy hyn yn anghyfreithlon? Alla i ffonio’r Heddlu? I’ch helpu i benderfynu, efallai y byddai’n werth i chi ofyn y cwestiynau hyn i chi eich hun: Ydy hyn wedi digwydd o’r blaen, ac ydych chi’n amau eich bod yn gwybod pwy allai fod yn gwneud hyn? Ydy hyn yn effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd? Os felly, mae’n aflonyddu (ymddygiad sy’n peri tramgwydd, yn achosi gofid neu’n codi ofn arnoch) a dylech gysylltu â’r heddlu.

Gallai sylwadau sarhaus sy’n cael eu gwneud fod yn fath o gyfathrebu maleisus (cyfathrebiad sy’n cael ei anfon â’r bwriad o achosi gofid). Os ydych wedi cael sylwadau o’r fath gallwch eu riportio ar-lein a’u riportio i’r heddlu.

Os bydd rhywun yn postio negeseuon sy’n peri tramgwydd oherwydd pwy ydych chi, neu pwy mae ef neu hi yn meddwl ydych chi, mae’n defnyddio iaith casineb (iaith sarhaus neu fygythiol neu rywbeth wedi’i ysgrifennu sy’n mynegi rhagfarn yn erbyn grŵp arbennig). Gellid riportio negeseuon o’r fath i’r heddlu fel trosedd gasineb.

Gall yr heddlu ddilyn canllawiau ar gyfer gorfodi’r gyfraith. Mae’r canllawiau’n egluro sut i gael tystiolaeth gan y  cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ymchwiliadau sy’n mynd rhagddynt.

Darganfyddwch isod sut i riportio ac adfer cyfrifon wedi’u hacio ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below