Cynnwys Graffig nad yw’n Mynd yn Groes i’r Telerau
Bydd rhai delweddau y byddwch yn eu gweld ar-lein yn rhai graffig ac annymunol, ond weithiau mae angen y delweddau hyn, felly ni fyddant bob amser yn cael eu tynnu i lawr oherwydd eu bod yn torri’r rheolau. Enghreifftiau o’r rhain yw:
- Cam-drin anifeiliaid – defnyddir delweddau graffig iawn yn aml er mwyn codi ymwybyddiaeth o greulondeb tuag at anifeiliaid, boed yn ddomestig neu’n ddiwydiannol (lles anifeiliaid yn y diwydiant bwyd). Mae angen cyfyngiadau oed ar gyfer rhai o’r delweddau hyn, a gallwch ddarganfod sut i riportio hyn yma;
- Delweddau o ryfel a cholledion rhyfel – unwaith eto defnyddir delweddau er mwyn codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu;
- Delweddau o hunan-niwed – bydd rhai platfformau’n tynnu’r cynnwys hwn i lawr ond bydd y rhan fwyaf yn ei adael. Mae’n bosibl defnyddio’r delweddau hyn fel rhan o stori pobl ac i’w dangos yn gwella, a gall ymgyrchwyr hefyd eu defnyddio er mwyn codi ymwybyddiaeth.