Llinell Gymorth Pornograffi Dial eich helpu i gael rhagor o gyngor a chefnogaeth. Ffoniwch 0345 6000 459 neu anfonwch ebost i help@revengepornhelpline.org.uk
Mae arnyn nhw eisiau cysylltu â chi er mwyn iddyn nhw allu eich bygwth a rhoi pwysau arnoch chi. Cymerwch sgrinluniau fel tystiolaeth. Blociwch nhw a pheidiwch ag ymateb iddyn nhw. Mae’r swm y byddan nhw’n gofyn amdano wedi’i fwriadu i fod yn ddigon o swm i’ch annog i dalu. Ond fydd y swm byth yn ddigon, a byddant yn dod yn ôl ac yn mynnu rhagor o arian.
Rydym yn annog dioddefwyr i gadw pob neges fel tystiolaeth. Dylai dioddefwyr hefyd riportio a blocio proffil cyfryngau cymdeithasol y troseddwyr i’r platfform y cawsant eu bygwth arno, oherwydd mae blacmelio yn debygol o fod yn groes i safonau cymunedol y platfform.
Mae’r math yma o drosedd ar gynnydd, a dyma pam y mae Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) y DU yn awyddus i chi ei riportio. Mae angen i’r NCA ddatblygu gwybodaeth am y math yma o droseddau. Er bod y symiau y gofynnir amdanynt yn gymharol fach (£200 - £1600) mae nifer ac amlder y troseddau hyn yn debygol o wneud hwn yn ddiwydiant rhyngwladol sy’n werth miliynau o ddoleri. Mae ymchwiliadau’r NCA yn canfod dioddefwyr ym mhob cwr o’r byd. Gallwch gael mwy o wybodaeth am flacmel rhywiol (blacmel gwe-gamera), gan gynnwys beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr, ar wefan yr NCA.
Mae’ heddlu’r DU wedi cysylltu pum achos o flacmel ar-lein â hunanladdiad. Felly mae’n bwysig eich bod yn gofyn am help. Dydych chi ddim wedi gwneud dim byd o’i le. Nid chi yw’r unig un y mae hyn wedi digwydd iddo. Mae’r NCA wedi ymdrin â thros 1500 o achosion o flacmel rhywiol, ac mae galwedigaethau’r dioddefwyr yn cynnwys swyddogion yr heddlu, dynion tân, aelodau o’r fyddin (swyddogion milwrol a swyddogion di-gomisiwn), penaethiaid awdurdodau lleol, pobl o fyd chwaraeon, athrawon, hyfforddwyr ieuenctid a phobl enwog.
Darganfyddwch isod sut i riportio blacmel rhywiol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: