Helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein
Bygythiadau
Mae yna ddau fath o fygythiad:
- Damcaniaethol – Gallai hyn gynnwys mynegi anghytundeb drwy wneud bygythiadau nad ydyn nhw’n ddifrifol ac na fyddai’n debygol iawn o gael eu cyflawni. Fel rheol, fyddai’r rhain ddim yn mynd yn erbyn safonau cymunedol safleoedd rhwydweithio cymdeithasol oni bai bod ffactorau eraill i’w hystyried hefyd.
- Credadwy – Pan fydd bygythiad yn golygu perygl go iawn a bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ee, bygwth bywyd rhywun. Dylid riportio’r math yma o fygythiad i’r heddlu fel mater brys. Gallai mathau eraill o fygythiadau fel hyn gynnwys “datgelu” ymddygiad rhywun er mwyn ei flacmelio. Efallai y byddai bygythiad o’r fath yn cael ei ddefnyddio i orfodi rhywun i wneud rhywbeth nad yw’n dymuno ei wneud, ee anfon llun o natur bersonol neu ymddygiad arall y bydd yn ei ddifaru’n nes ymlaen.
I gael gwybod sut mae riportio bygythiadau ar wahanol lwyfannau
Ffugio bod yn Rhywun Arall
Mae hyn yn golygu pan fydd rhywun yn cymryd arno i fod yn rhywun arall er mwyn aflonyddu ar unigolyn neu er mwyn ei dwyllo. Gall gynnwys ymddygiad fel creu cyfrifon ffug neu herwgipio cyfrifon fel arfer gyda’r bwriad o dargedu unigolyn.
I gael gwybod sut mae riportio pan fydd rhywun yn esgus bod yn rhywun arall ar wahanol lwyfannau
Bwlio neu Aflonyddu
Gall hyn gynnwys iaith sy’n greulon er mwyn targedu unigolyn neu grŵp o bobl, trolio, rhoi si ar led ac eithrio pobl o gymunedau ar-lein. O ran aflonyddu, mae’r ymddygiad yn digwydd dro ar ôl tro a’r bwriad yw achosi gofid. Dylid riportio aflonyddu sy’n digwydd dro ar ôl tro i’r heddlu.
I gael gwybod sut mae riportio bwlio neu aflonyddu ar wahanol lwyfannau
Cynnwys Hunan-niweidio neu Hunanladdiad
Dydy’r rhan fwyaf o lwyfannau ddim yn caniatáu unrhyw gynnwys sy’n annog, sy’n cyfarwyddo neu sy’n dyrchafu hunanladdiad. Mae gan rai llwyfannau brosesau ar waith i ddiogelu defnyddwyr sy’n gweld neu’n rhannu’r math yma o gynnwys.
I gael gwybod sut mae riportio cynnwys hunan-niweidio neu hunanladdiad ar wahanol lwyfannau
Os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl, ac eich bod chi’n dymuno siarad â rhywun annibynnol am hyn, mae’r Samariaid yno i helpu.
Cam-drin Ar-lein
Term eang sy’n cwmpasu unrhyw fath o gam-drin sy’n cael ei wneud ar rwydwaith cymdeithasol, gwefan, llwyfan chwarae gemau neu ap. Cam-drin llafar yw hyn fel rheol, ond gall hefyd gynnwys cam-drin ar sail delweddau.
I gael gwybod sut mae riportio cam-drin ar wahanol lwyfannau
Cynnwys Treisgar
Gallai fod ar ffurf cynnwys graffig gan gynnwys delweddau gwaedlyd fel fideos yn dangos rhywun yn torri pen rhywun neu olygfeydd sy’n dyrchafu cam-drin anifeiliaid. Bydd y rhan fwyaf o’r rhain yn erbyn safonau cymunedol y gwahanol lwyfannau.
I gael gwybod sut mae riportio cynnwys treisgar ar wahanol lwyfannau
Cynigion Rhywiol Digroeso
Mae hyn yn aml ar sail rhywedd a gall fod ar ffurf iaith rywioledig iawn, negeseuon parhaus na ofynnwyd amdanyn nhw, sydd yn aml o natur rywiol. Fydd y sawl sy’n anfon y negeseuon ddim yn poeni a yw’r unigolyn sy’n eu derbyn yn dymuno cael y negeseuon hyn neu beidio.
i gael gwybod sut mae riportio cynigion rhywiol annymunol ar wahanol lwyfannau
Cynnwys Pornograffig
Cynnwys oedolion (noeth neu rywiol) – dydy cynnwys fel hyn ddim yn anghyfreithlon ond mae’n mynd yn groes i delerau’r rhan fwyaf o lwyfannau ar-lein.
I gael gwybod sut mae riportio cynnwys pornograffig ar wahanol lwyfannau
Ydych chi'n berson ifanc o dan 18 oed?
Er bod cynnwys Cymraeg a Saesneg ar gael ar y safle hwn, dim ond yn Saesneg gallwn ni gynnig cymorth a chyfathrebu â chi. Mae’r dolenni ar y safle yma yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth perthnasol sydd ar gael yn Saesneg yn bennaf. Pan fo’n berthnasol, mae rhywfaint o’r cynnwys o’r safleoedd hyn wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg i gefnogi’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y wefan Riportio Cynnwys Niweidiol. Mae’r safle hwn yn cael ei weithredu gan SWGfL ar ran Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Mae’r cynnwys wedi cael ei gyfieithu gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.